‘Dwi
ddim yn gallu credu’r peth!! Pam byddai hi’n ‘neud ‘na i fi? Dyw e jyst ddim yn
deg! ‘Dwi ‘di bod yn ffrind da iddi ar draws y blynyddoedd a nawr rydw i’n
teimlo ei bod hi wedi fy mradychu. Pan mae person yn rhannu cyfrinach ‘da ti,
dwyt ti ddim wedyn i fod mynd â rhannu’r wybodaeth ‘da phawb! Bydden i BYTH
wedi ‘neud ‘na iddi hi! Mae ffrindie fod aros gyda’i gilydd, cefnogi ei gilydd
ac yn sicr i fod cadw cyfrinachau ei gilydd. Bydd pawb yn siarad amdanai nawr,
a hyn i gyd achos bod Nia methu cadw ei cheg ar gau am un eiliad. ‘Dwi mor grac
‘da hi, sain gwbod os fyddai byth yn gallu maddau iddi ar ôl hyn. Mae’n bryd i
fi ddod o hyd i ffrind gore newydd weden i; rhywun byddai’n gallu ymddiried
ynddi. Mae mam yn dweud dylen i drafod gyda hi a cheisio bod yn ffrindie eto,
ond i fod yn onest, sain teimlo fy mod i eisiau. ‘Dwi byth eisiau siarad gyda
Nia eto!
SYLWCH - rydw i wedi defnyddio IAITH ANFFURFIOL ar gyfer y fonolog. Mae defnyddio iaith fel hyn yn dderbyniol ar gyfer ffurf anffurfiol fel monolog, ymson neu ddyddiadur.
Tua diwedd y Blog mae yna daflen ychwanegol i'ch helpu gyda strwythuro'ch monologau