Wednesday, 1 October 2014

Enghraifft o Fonolog Emosiwn

Emosiwn = Yn Grac


‘Dwi ddim yn gallu credu’r peth!! Pam byddai hi’n ‘neud ‘na i fi? Dyw e jyst ddim yn deg! ‘Dwi ‘di bod yn ffrind da iddi ar draws y blynyddoedd a nawr rydw i’n teimlo ei bod hi wedi fy mradychu. Pan mae person yn rhannu cyfrinach ‘da ti, dwyt ti ddim wedyn i fod mynd â rhannu’r wybodaeth ‘da phawb! Bydden i BYTH wedi ‘neud ‘na iddi hi! Mae ffrindie fod aros gyda’i gilydd, cefnogi ei gilydd ac yn sicr i fod cadw cyfrinachau ei gilydd. Bydd pawb yn siarad amdanai nawr, a hyn i gyd achos bod Nia methu cadw ei cheg ar gau am un eiliad. ‘Dwi mor grac ‘da hi, sain gwbod os fyddai byth yn gallu maddau iddi ar ôl hyn. Mae’n bryd i fi ddod o hyd i ffrind gore newydd weden i; rhywun byddai’n gallu ymddiried ynddi. Mae mam yn dweud dylen i drafod gyda hi a cheisio bod yn ffrindie eto, ond i fod yn onest, sain teimlo fy mod i eisiau. ‘Dwi byth eisiau siarad gyda Nia eto!

SYLWCH - rydw i wedi defnyddio IAITH ANFFURFIOL ar gyfer y fonolog. Mae defnyddio iaith fel hyn yn dderbyniol ar gyfer ffurf anffurfiol fel monolog, ymson neu ddyddiadur.

Tua diwedd y Blog mae yna daflen ychwanegol i'ch helpu gyda strwythuro'ch monologau

Thursday, 4 September 2014

Gwaith Cartref Ysgrifennu Llythyr



Beth am gyfeirio at yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu:

- Iaith Gorfforol
- Sut i ddisgrifio'r llais
- Rheolau Llwyfan
- Cymeriad Ystrydebol

Soniwch am y profiadau rydych chi wedi eu cael:

- Creu tableaux emosiynau
- Gwaith Meim
- Gwisgo darn o wisg er mwyn creu cymeriad

Nodwch yr hyn rydych chi wedi ei fwynhau am y gwersi a'r hyn rydych chi'n edrych ymlaen i wneud fwy ohono fe yn y dyfodol.

Gwaith Cartref - Defnyddio'r Llais

Beth yw Iaith Gorfforol?

Gwaith Cartref Ysgrifennu Monolog

Tuesday, 8 July 2014

Prawf Sillafu 1 - Blwyddyn 7

Dyma'r geiriau sydd angen i chi eu dysgu ar gyfer eich prawf sillafu:

1. Iaith Gorfforol
2. Mynegiant Wynebol
3. Osgo
4. Ystumiau
5. Cerddediad
6. Symudiadau
7. Cynulleidfa
8. Llwyfan
9. Meim
10. Monolog